Stef i ymladd Pontypridd Cynon Merthyr

Stef Morgan - ymgeisydd Gwlad ym Mhontypridd Cynon Merthyr

Stefan Morgan bydd ymgeisydd Gwlad ar gyfer Pontypridd Cynon Merthyr yn etholiad y Senedd

Yn ymgeisydd am y tro cyntaf, meddai Stef:

“Rwy’n dod â chefndir gyrfa amrywiol i’m hymgais, yn cynnwys saith mlynedd fel peiriannydd trydanol yn yr RAF, a blwyddyn yn Awstralia yn gwneud gwaith fferm a gwaith bar.

“Rwyf hefyd wedi helpu i adeiladu’r cerbyd sgowtiaid milwrol newydd Ajax, ac rwyf bellach yn gweithio fel gosodwr trydanol awyrennau.

“Rwy’n cefnogi GWLAD oherwydd eu bod yn rhannu’r un gwerthoedd craidd â fi. Plaid synnwyr cyffredin iawn ydy hi yn hytrach na safbwyntiau eithafol. Maen nhw eisiau Cymru annibynnol – rhywbeth rwy’n poeni’n fawr amdano ac yn wirioneddol yn credu ynddo. Maen nhw eisiau canolbwyntio ar bobl Cymru yn gyntaf a helpu i dyfu ein heconomi a’n seilwaith yn hytrach na gwario arian ar bethau na fydd o fudd i Gymru.

“Gan fy mod yn byw yn Nhredegar, rwy’n gweld blaenoriaethau lleol fel:

gwella cyflwr ein ffyrdd a’n gwasanaethau trên

rhoi stop ar dyrbinau gwynt heb unrhyw fudd i’r gymuned leol

gwella golwg gyffredinol ein trefi a’n pentrefi lleol

“Pan fydda i’n cael hoe, rwy’n mwynhau chwarae pêl-droed 5-bob-ochr, cerdded ein bryniau a’n mynyddoedd lleol, a mynd allan i dafarn leol dda am beint.”

Rydym wrth ein bodd yn cael Stef ar y tîm ac yn dymuno pob llwyddiant iddo yn ei ymgyrch.

Cefnogwch Stef ar Facebook yma

Rhowch hwb bellach i’n hymgyrch gyda rhodd drwy ein Crowdfunder

Leave a Comment