
Rydym yn hynod o falch i gyhoeddi mai Wayne Erasmus bydd ein ymgeisydd am Sir Gaerfyrdin yn etholiadau’r Senedd
Yn ei anerchiad etholiadol at gefnogwyr Gwlad, yn ogystal â chyn-gefnogwyr siomedig “pleidiau eraill”, dywedodd Wayne:
“Bûm yn hwylio fel Prif Beiriannydd yn y Llynges Fasnachol. Rwy’n siaradwr Cymraeg iaith gyntaf, ac rwyf wedi byw yn Hendy ers 1986.
“Ers ymddeol yn 2014 rwyf wedi rhedeg nifer o elusennau a banciau bwyd lleol. Ymhlith pethau eraill, arweiniais ymgyrch lwyddiannus i atal codi ffioedd caeau yng Nghynghrair Sir Gaerfyrddin i lefel a fyddai wedi rhoi diwedd ar chwaraeon llawr gwlad. Roeddwn yn un o aelodau sefydlu Pêl-droed Iau Hendy, a daeth llawer o’r bechgyn o Langennech.
“Rwyf hefyd yn falch o wasanaethu ar nifer o gynghorau cymuned a thref lleol.
“Rwy’n mwynhau eiliad dawel yn y Morlais (Smiths) yn Llangennech.
“Rhaid imi dalu teyrnged i’r diweddar Gary Jones a’m cynorthwyodd pan oedd y banc bwyd yn y Farmers yn Llangennech. Er hynny, mae Llafur a Phlaid Cymru wedi methu Llangennech a Chymru — drwy wasanaethau llai yn Ysbyty Tywysog Philip, gofal y cyngor, fiasgo’r 20mya, ac yn lleol gwerthu’r RN.
“Mae Cyngor Sir Caerfyrddin mewn dyled ddofn oherwydd camreolaeth Plaid Cymru. Mae angen mwy o onestrwydd a thryloywder yng ngwaith Cyngor Sir Caerfyrddin, a gwell cyfathrebu â’r etholwyr.
“I gloi, gweithiais gyda Hefin David a ‘Stolen Lives’ ynghylch methiant Llywodraeth Cymru i fynd i’r afael â sefyllfa unigolion ar y sbectrwm awtistig, ac unigolion ag anableddau dysgu. Lladdwyd fy mab tra oedd yn yr ysbyty ac o dan ofal Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda a Llywodraeth Cymru. Roedd yn drist clywed am farwolaeth Hefin, a gollodd ei fywyd yn ymladd dros yr un achos. Faint yn rhagor sydd angen marw? Mae angen newid!”