Wfftio i Chwarae Plant y Chwith

MAE ymdrech i ganslo un o’r siaradwyr yng Nghynhadledd YesCymru penwythnos nesaf wedi methu.

A’r cwbwl wedi cael ei ddisgrifio fel chwarae plant gwleidyddol, y mae’n hen bryd cefnu arno bellach.

Roedd criw o fudiadau asgell-chwith wedi sgwennu at Brif Weithredwr YesCymru, Gwern Gwynfil, yn gofyn iddo beidio â chynnwys Arweinydd Gwlad, Gwyn Wigley Evans, yn y sesiwn “Question Time” sydd wedi ei drefnu yn y gynhadledd ddydd Sul.

Roedd y grwpiau – Undod, Melin Drafod, Cymdeithas yr Iaith a Llafur Dros Annibyniaeth – wedi disgrifio Gwlad fel “plaid adain dde eithafol”, gan ddanfon enghreiftiau o’r hyn yr oeddan nhw’n ei alw yn brawf diamheuol o hynny.

Ond wfftio at y “dystiolaeth” a wnaeth y Prif Weithredwr, wrth gadarnhau na fyddai’n tynnu’r gwahoddiad i Gwlad yn ei ôl.

Roedd llefarydd Polisi Gwlad, Stephen Morris wedi llunio dogfen fanwl yn gwrth-brofi pob un o’r enghreifftiau a ddarparwyd gan y grwpiau dan sylw.

Dywedodd bod yna egwyddor bwysig yn y fantol gyda hyn nid dim ond o ran rhyddid barn ond hefyd o ran natur democratiaeth ei hun.

“Dydan ni dim yn disgwyl i bawb gytuno gyda ni – yn wir mi rydan ni’n derbyn y bydd pobol eraill yn y mudiad annibyniaeth yn anghytuno’n gryf gyda’n safbwynt ni, a ninnau’n anghytuno yr un mor gryf gyda’u safbwynt nhw.” meddai Dr. Morris.

“Ond mae yna wahaniaeth mawr rhwng anghytuno gyda rhywun a chwestiynu eu cymeriad nhw a’r hawl sydd ganddyn nhw i ddal eu safbwynt.”

Ychwanegodd mai ffwlbri plentynaidd oedd y cwynion a gyflwynwyd gan y grwpiau dan sylw.

“Does dim mymryn o dystiolaeth fod Gwlad erioed wedi tueddu at syniadau adain dde eithafol” meddai.

“Yn wir, mi rydan ni wedi datgan ein gwrthwynebiad i hiliaeth ac unrhyw syniad o “burdeb hiliol” yma yng Nghymru yn gyson dros y blynyddoedd diwethaf”.

Un o’r erthyglau y cwynwyd amdani oedd erthygl a luniwyd gan yr awdur hwn ar Awst 10fed, 2020, fel ymateb i fwriad Pwyllgor YesCymru ar y pryd i benodi “Swyddog Amrywiaeth a Chynhwysiant”.

Helfa Wrachod

Awgrymais yn yr erthygl honno mai rhwygo’r mudiad ac arwain at “witch-hunts” yn erbyn unigolion a fyddai’n digwydd gyda phenodiad fel hyn.

A dyna’n union ddigwyddodd, gydag un aelod amlwg o YesCymru, Nikita Jones yn cael ei herlid mewn modd cas iawn ar y cyfryngau cymdeithasol wrth i’r mudiad chwalu’n rhacs yn ystod y cyfnod helbulus hwnnw.

Un peth sy’n taro dyn yn od am yr ohebiaeth a ddanfonodd y grwpiau at YesCymru oedd nad oedd ganddyn nhw unrhyw wrthwynebiad i’r Toriaid Prydeinig fod ar y Question Time.

Sy’n awgrymu eu bod nhw’n ddigon hapus i gael y Toriaid yno fel cocyn hitio cyfleus iddynt.

Ond eu bod wedyn yn ffyrnig yn erbyn cynnwys plaid gynhenid Gymreig, mwy traddodiadol ei gogwydd, sy’n cynnig gweledigaeth ychydig yn wahanol i bobol Cymru.

Y tu hwnt i feddylfryd cul ac anoddefgar y grwpiau dan sylw, mae’n bosib dirnad hefyd nad Gwlad oedd eu targed mewn difri, ond YesCymru ei hun fel mudiad.

Wedi’r cwbwl, mae’r mudiad wedi mynd i gyfeiriad gwahanol iawn ers penodi pwyllgor gwaith newydd a Phrif Weithredwr newydd y llynedd.

Gan ddangos awydd i gyd-weithio hefo pawb ar draws y spectrwm gwleidyddol er mwyn hyrwyddo’r syniad o annibyniaeth.

Mae grwp YesCymru Ceidwadwyr, hyd yn oed, yn y broses o gael ei ffurfio – symudiad rhesymegol o gofio bod un pol piniwn am annibyniaeth wedi dangos bod 11% o bleidleiswyr y Ceidwadwyr yng Nghymru yn ffafrio annibyniaeth.

Byddai’r rhan fwyaf o bobol yn gweld yr ymdrechion hyn i ymestyn allan a cheisio ymestyn y sgwrs am annibyniaeth yn gymeradwy iawn.

Ond i rai eraill yn y mudiad cenedlaethol – sydd wastad wedi gweld eu hunain fel “arweinwyr naturiol y prosiect” – mae’n ymddangos fod hyn yn ddatblygiad bygythiol iawn.

Tybed felly nad ymdrech i danio “shot across the bows” oedd llythyr y grwpiau dan sylw.

Er mwyn rhybuddio YesCymru rhag bod yn rhy uchelgeisiol o ran yr ymgyrraedd newydd hyn.

Rhag i ormod o bobol newydd a gormod o syniadau newydd beryglu eu statws hwy o fewn y mudiad.

Ond bid a fo am hynny- gallwn ond diolch bod yr enghraifft ddiweddaraf hon o’r “diwylliant dileu”- (cancel culture) wedi methu.

Nid America ydi Cymru ac mae angen bod yn ofalus iawn rhag mabwysiadu rhai o’u harferion gwallgof nhw yma.

Gwlad “rhydd i bawb ei barn ac i bob barn ei llafar” fuodd Cymru erioed – a hir y parhaed hynny.

Leave a Comment