Y Pethau Bychain Sydd Mor Gyfoes ag Erioed

Ar ddiwrnod Gwyl Ddewi heddiw, byddwn yn cofio unwaith eto am y geiriau enwog hynny “Gwnewch y Pethau Bychain”.

Anogiad hynod amserol iawn gofio am y brotest hanesyddol o flaen y Senedd yng Nghaerdydd ddydd Mercher, pan ddaeth 5,000 o ffermwyr ynghyd i brotestio yn erbyn cynlluniau Llafur Cymru i leihau’r sector amaeth yng Nghymru.

Y brotest fwyaf yn holl hanes y Senedd mewn 25 mlynedd.

Ac mewn difri, beth alla’i fod yn fwy nodweddiadol o’r “pethau bychain” hyn na pharhau i allu tyfu bwyd a darparu bwyd ar gyfer pobol yng Nghymru?

Dywedodd arweinydd Gwlad, Gwyn Wigley Evans bod y brotest wedi tapio mewn i’r farn gyhoeddus bresennol mewn ffordd effeithiol iawn.

“Mae pobol wedi cael digon erbyn hyn – mae pawb call yn sylweddoli pa mor hanfodol ydi gallu parhau i dyfu ein bwyd ein hunain yma” meddai.

Dywedodd bod obsesiwn Llywodraeth Cymru gyda lleihau carbon trwy blannu mwy o goed ar dir amaethyddol yn gwbwl wallus a chamarweiniol.

“Y gwir amdani ydi tydi coed ddim yn gallu storio carbon tan eu bod wedi cyrraedd eu llawn dwf – ond mae glaswellt yn gwneud hynny o’r dechrau’n deg!”

Ychwanegodd ei bod hi’n hen bryd gweld cwymp Lesley Griffiths, Y Gweinidog Amaeth bellach.

“Dydi hi ddim yn gyfaill o gwbwl i’r byd amaeth nac i gefn gwlad – dydi hi jest ddim yn deall y byd hwn o gwbl” meddai.

Roed yna areithiau effeithiol a theimladwy iawn o flaen y Senedd ddydd Mercher a hynny gan amrywiaeth o siaradwyr.

Gan gynnwys Ioan Humphreys, Gareth Jones a Caryl Jones o Sir Fynwy a gafodd gymeradwyaeth neilltuol wrth alw am wneud bwyd yn “dda cyhoeddus” – yn “public good”.

Mynegodd sawl un eu rhwystrediageth nid yn unig am y Cynllun Ffermio Cynaliadwy, ond y biwrocratiaeth rhyfeddol sy’n rhan ohono. Megis Y Llawlyfr Rheolau y mae’n rhaid i ffermwyr ei ddilyn er mwyn cael unrhyw fath o gymorthdal yn y dyfodol.

Dydi hi ddim yn ormodiaith i ddweud ei fod bron mor feichus a llethol a’r 613 reolau deddfol yr oedd rhaid i’r Israeliaid druan gadw atynt yn yr Hen Destament!

Ers blynyddoedd, mae cefn gwlad wedi synhwyro ryw ddifaterwch mawr tuag atynt o du’r Llywodraeth Lafur yng Nghaerdydd. Ond rwan gyda’r ymosodiad presennol ar ffermwyr a chynhyrchu bwyd, mae yna sylweddoliad bod y difaterwch hwn wedi troi’n elyniaeth bellach.

Mae’r syniad o gipio 20% o dir amaethwyr ar gyfer tyfu coed a bywyd gwyllt wir yn ddychrynllyd a bron fel pe bai comiwnyddiaeth wedi cyrraedd Cymru heddiw.

Does ond angen cofio am yr unben hwnnw, Stalin yn galw ffermwyr yn “elynion y bobol” a’r dioddefaint ar raddfa enfawr a ddigwyddodd wrth leihau’r cyflenwad bwyd yn Rwsia i sylweddoli pa mor eithriadol beryglus yw’r trywydd hwn.

Yn enwedig o gofio mai dim ond 38,000 o ffermwyr sy’n weddill yng Nghymru heddiw- 1% o gynhyrchwyr bwyd brodorol ar gyfer poblogaeth o 3 miliwn felly.

Rhaid dweud bod yna rhywbeth gwefreiddiol yn perthyn i’r brotest  a welwyd ddydd Mercher o sylweddoli bod Cymru’n rhan o don o brotestiadau cyffelyb trwy Ewrop gyfan.

Doedd dim sôn am y cyfryngau priflif wrth gwrs- ond yr un diwrnod, roedd yna brotestiadau anferth gan ffermwyr yn Ffrainc, Sbaen, Yr Almaen a Gwlad Pwyl hefyd.

Y gwir ydi ein bod yn gweld gwrthdystiadau poblogaidd cynyddol yn erbyn y cwlt “Net Zero” sy’n cael ei wthio arnom gan gyrff rhyngwladol anatebol a’n llywodraethau ein hunain hefyd.

A llawer mwy o bobol yn cwestiynu pam fod nwy bywyd ei hun, CO2 wedi cael ei dargedu yn y ffasiwn fodd gan yr awdurdodau hyn yn eu hymosodiadau ar y sector amaethyddol a chynhyrchu bwyd. Proses allai effeithio’n negyddol ar gymaint ohonom maes o law.

Felly be’ nesaf?

Mae Llywodraeth Cymru wedi gaddo bydd yr broses ymgynghori gyda’r ffermwyr yn parhau. Ond o gofio pa mor hanfodol ar gyfer bywydau a lles pawb yng Nghymru yw diogelu’r gyflenwad fwyd – tybed nad oes achos i ledu’r ymgynghoriad hwn i holl drigolion Cymru gael rhoi eu barn.

Onid yw diogelu’r gyflenwad fwyd frodorol yn fater i genedl gyfan mewn gwirionedd?

Mae un peth yn sicr. Mae’r brotest dydd Mercher wedi newid y deinameg wleidyddol yng Nghymru yn llwyr.

Roedd hi’n ddiddorol iawn er enghraifft i weld aelodau Plaid Cymru yn fotio gyda’r Toriaid mewn cynnig yn condemnio’r cynlluniau ffermio.

Mae’n amlwg bod y Blaid yn poeni bod eu cysylltiad agos gyda’r Blaid Lafur yn mynd i fod yn broblem iddynt o ran cadw eu cefnogwyr traddodiadol.

A fyddant yn magu digon o asgwrn cefn i dorri’r cysylltiad gyda Llafur Cymru yn llwyr bellach?

Dymuniad mawr llawer o genedlaetholwyr ar hyd a lled Cymru wrth gwrs.

O ran y ffermwyr eu hunain, mae’n bwysig eu bod hwythau yn cynnal y momentwm sydd ganddynt ac estyn allan ymhellach at y cyhoedd.

Mae Gwlad wedi cefnogi’r syniad o weld ffermwyr yn gwerthu eu cynnyrch yn uniongyrchol i’r cyhoedd er mwyn herio y gafael haernaidd sydd gan yr archfarchnadoedd ar eu cynnyrch a’r prisiau gwael a roir iddynt gyda’r trefniant hwnnw.

Siop fferm ar y stryd fawr ymhob tref yng Nghymru? Pam lai.

Gwnewch y pethau bychain.

Leave a Comment