
Dyma ein hymgeisydd Anthony Cook ar wasanaeth gweithredol gyda 1 Royal Welsh, Talaith Helmand, Afghanistan yn 2012.
Dywedodd Anthony, “Tra oeddwn i gyda’r lluoedd arfog dysgais i am waith tîm, disgyblaeth, teyrngarwch, arweinyddiaeth a sut i weithio dan bwysau. Roedd yn rhaid i’m cyd-dîm gredu’n llwyr ynof fi, ac roedd yn rhaid i mi gredu’n llwyr ynddyn nhw mewn sawl sefyllfa.
“Dysgais i weithio gyda phobl o ystod eang o gefndiroedd a diwylliannau – gan gynnwys fy nghyd-Gymry a hefyd filwyr o Loegr, Affrica, Ffiji, Nepal, India a’r Caribî.
“Teithiais i sawl rhan o’r byd a dysgais i barhau pan oedd pethau’n mynd yn anodd. Cyfarfûm â rhai o’r bobl fwyaf galluog, ymarferol, cadarn a theyrngar y byddant yn ffrindiau am oes.”
Ers gadael y Fyddin, mae Anthony wedi gweithio fel signalwr sling, gyrrwr Hiab, gweithredwr iard adeiladwyr, gyrrwr danfon a gweithredwr gwaith tir (roedd rhaid i ni edrych rhai o’r rhain i fyny!) ac ar hyn o bryd mae’n ymgynghorydd asbestos yn gweithio ar wahanol safleoedd yng Nghymru a de Lloegr.
A oeddech chi’n gwybod bod dwy ran o dair o’r Aelodau’r Senedd yn dod o ddim ond pum proffesiwn: y gyfraith, y byd academaidd, y cyfryngau, y trydydd sector a swyddi gwleidyddol (materion cyhoeddus, ymchwilwyr gwleidyddol ac ati)? Diolch i @Joe___Allen ar X am y darn gwybodaeth hwn.
Felly mae Anthony ychydig yn wahanol, on’d yw e?
Ac felly hefyd ydym ni yn Gwlad.
Rhannwch y neges hon a pleidleisiwch i Gwlad yn #Caerffili ar 23 Hydref