Ydy Gwlad yn Blaid ‘Adain Dde Eithafol’?

Nac ydy.

Mae’n rhywbeth na ddylem bod yn gorfod dweud, mewn byd delfrydol. Gall unrhyw un ddarllen yr erthyglau ar y blog hwn (bellach yn agosáu at 400 ohonynt) neu’r trydariadau ar ein llinell amser Twitter (dros 8000 ohonynt) neu edrych ar ein tudalen Facebook, ac ni fyddant yn dod o hyd i fymryn o dystiolaeth i awgrymu unrhyw beth o’r fath.

Eto byth ers i ni ymddangos am y tro cyntaf ychydig dros bum mlynedd yn ôl, mae ceisio difrïo ni yn y ffordd hon wedi bod yn dacteg ddiofyn gan y rhai a fyddai’n well ganddynt nad oeddem yn rhan o’r mudiad annibyniaeth, ac sy’n dymuno i ni fynd i ffwrdd.

Ond mae pethau wedi dod i’r pen yn ddiweddar gyda chais can grŵp o sefydliadau ar adain chwith y mudiad – Undod, Melin Drafod, Cymdeithas yr Iaith a Llafur dros Annibyniaeth – i beri ein gwahardd rhag cymryd rhan yng Nghynhadledd YesCymru sydd ar fin digwydd yn Abersytwyth.

Ddoe, ddaru Nation.Cymru cyhoeddi erthygl wych gan Gwern Gwynfil, Prif Weithredwr YesCymru, yn esbonio pam nad oedd y cais hwn yn llwyddiannus, ac yn dweud bod rhaid i bawb ohonom ni yn y mudiad annibyniaeth goresgyn y tueddiad i ymrannu ac ymgecru ymysg ein gilydd.

Mae fy nghyd-aelod, Aled Gwyn Jôb, hefyd wedi ysgrifennu am gefndir hyn yn ei erthygl yn gynharach yr wythnos hon.

Er cyflawnrwydd a’r archif cyhoeddus, yn y postiad hwn rwy’n rhoi’r testun llawn o’r ymateb y ‘sgrifennais i ar ran Gwlad i ateb y cyhuddiadau a wneid.

Yn ddelfrydol mi hoffwn i gyhoeddi hefyd testun llawn y cwŷn ei hunan, ac i’r perwyl hwn (ar awgrym gwern Gwynfil) mi ‘sgrifennais i at Melin Drafod wrth eu cyfeiriad e-bost ‘post@melindrafod.cymru’ yr wythnos diwethaf. Mi ofynnais a oedd ganddynt unrhwy wrthwynebiad i mi gyhoeddi’r testun, a hefyd gwahoddais i iddyn nhw enhangu neu diwygio ei gynnwys os mynnent; ond nad ydw i wedi cael unrhyw ymateb oddi wrthyn nhw. Mae croeso mawr iddyn nhw ddod ‘nôl ata i, i ni barhau gyda’r gohebaeth.

Yn y cyfamser, rwy wedi cytuno gyda Gwern Gwynfil i beidio â chyhoeddi’r llythyr gwreiddiol, gan fod yr ‘hawlfraint’ fel petai yn perthyn i Melin Drafod a’u cyd-awduron; eto, rydw i yn mynd i gyhoeddi’r atodiad y roeson nhw fel ‘tystiolaeth’, gan mai dim ond sgrinluniau o bostiadau Gwlad a’u haelodau sydd ynddo. Hefyd, mae fy ymateb i yn dyfynnu pob un o’u pwyntiau nhw beth bynnag, fel nad oes unrhyw un o’u pwyntiau nhw sydd heb ei ateb yn llawn.

Heb ddim mwy o betruso, felly:

Cliciwch yma am yr atodiad a anfonwyd ganddynt gyda’r llythyr gwreiddiol (sy’n cynnwys dim ond sgrinluniau o bostiadau Gwlad).

Cliciwch yma am yr ateb ffurfiol a ysgrifennais.

Leave a Comment